Annwyl* Boris,

Rwyt ti’n mynd. Neu, dw i’n meddwl dy fod ti’n mynd. Roedd dy araith ymddiswyddiad –  fel gymaint o’r areithiau eraill y clywais i ti’n eu hadrodd dros y blynyddoedd diwethaf – yn llawn geiriau ond yn dweud dim byd, fel petai Billy Bunter wedi tyfu’n ddyn ac wedi colli ei iawn bwyll rhwng y nawfed a’r degfed Macallan single malt yn yr oriau mân, simsan yn y Groucho Club.