Mae angen ail-enwi’r mis presennol yn rhywbeth mwy optimistig…
Rwyf ar ddeall mai tarddiad y gair Gorffennaf yw ‘gorffen yr haf’ – ac mai syniad ein cyndeidiau Celtaidd oedd yr enw, gan iddynt feddwl mai yn ystod Mai, Mehefin a Gorffennaf mae’r haf yng Nghymru.
Cyfeiriodd y bardd a’r digrifwr Iorwerth Fychan at Gorffennaf ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Meddai, yn Llawysgrif Hendregadredd: kalan gorffennaf gorffwyll am byd.