Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, wedi bod yn amlwg yn y newyddion ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar. Mae proffil uchel y cyn-weithiwr UEFA yn hollol wahanol i’w ragflaenydd, sef Jonathan Ford. Oedd, roedd Ford yn tynnu sylw weithiau, ond at ei gilydd roedd o’n gweithio yn y cefndir gyda’r Gymdeithas. Wrth edrych yn ôl ar gyfnod Jonathan Ford, mae’n rhaid dweud iddo fod yn gyfnod llwyddiannus.