Pan ymunais â staff Bwrdd yr Iaith yn 1990, roedd Deddf Iaith 1967 yn cynnig yr hawl i ddefnyddio’r iaith mewn llys. Nododd, hefyd, y byddai’r fersiwn Saesneg o ddogfen ddwyieithog yn drech, pe bai unrhyw wahaniaethau rhwng y ddau fersiwn. Gwarthus!