Pobol y Penwythnos yw un o gyfresi diweddaraf S4C. Rydym yn gwybod mai rhaglen S4C yw hi gan eu bod yn sillafu ‘pobol’ gyda dwy ‘o’. A gallwch ddyfalu o’r teitl eithaf hunan esboniadol hefyd mai dilyn unigolion ar benwythnosau a wna’r rhaglen gan roi sylw i ddiddordebau diddorol ac anarferol pobl sydd â swyddi cwbl wahanol yn ystod yr wythnos.