I’r sawl sy’n dilyn newyddion y byd ar y We, y teledu, y radio, y papurau newydd, mae wedi bod yn wythnos dywyll iawn.

Mae’r ymosodiad diweddaraf ar fenywod yn yr Unol Daleithiau, eu hawl i reoli eu cyrff eu hunain, i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cenhedlu, i gael gofal iechyd sylfaenol, yn frawychus. Yn wlad fu mor oleuedig ar lawer ystyr, mae’r cam hwn yn ôl i oes greulon o orfodi menywod – a merched – i roi genedigaeth yn erbyn eu hewyllys yn un tywyll iawn.