Mae cefnogwyr yr Adar Gleision yn siomedig iawn bod Gareth Bale wedi dewis chwarae i Los Angeles yn hytrach na Chaerdydd. Maen nhw’n cyhuddo Bale o roi arian uwchlaw’r cyfle i chwarae i glwb ei gartref a rhai wedi bod yn feirniadol iawn o’i benderfyniad. Dyma oedd cyfle Bale, medden nhw, i roi rhywbeth yn ôl, i helpu’r clwb mae o’n caru i fynd nôl i Uwch Gynghrair Lloegr.