Yng ngolau main cynta’r bore a hithau’n dal yn hanner cysgu, ymestynnodd am ei ffôn. Cyffyrddodd y sgwâr bach glas ar y sgrin gyda deryn gwyn, annwyl, crwn yr olwg yn ei ganol. Yn y blwch bach ar ben sgrin twitter, teipiodd ei henw ei hun, a phwyso ‘chwilio’.

Gwenodd.