Nid oedd llawer o ddewis ar S4C yr wythnos ddiwethaf os nad oedd gennych ddiddordeb mewn pêl-droed neu Eisteddfod yr Urdd. Dw i wrth fy modd â’r bêl gron a dw i ddim yn drwg-licio Steddfod ’chwaith, ond roeddwn i hyd yn oed yn dechrau diflasu erbyn y diwedd! Ond cyflawnodd wythnos o ffwtbol a ffalseto un peth o leiaf; tynnu ein sylw oddi wrth y ffair frenhinol honno ar bob sianel arall.