Dychmygwch fyd lle mae gemau pêl-droed Cymru yn cael eu ffrydio gan ryw gwmni mawr o dramor, sydd yn hollol ddi-glem am Gymru, a wal dalu – pay wall – yn cadw tipyn go-lew o’r Wal Goch rhag gwylio.

Fyddai yna ddim dangos Dafydd Iwan yn canu ‘Yma o Hyd’ cyn y gêm – mae’r ffaith fod ITV a Sky Sports wedi peidio dangos perfformiad y canwr chwedlonol bnawn Sul yn arwydd o hynny.

Dyna pam fod angen i gemau rhyngwladol aros ar S4C.