Mae yna ddadl newydd dros gael systemau pleidleisio cyfrannol. Ei henw ydi Boris Johnson.

Dan system gyfrannol go-iawn, lle byddai rhaid i bleidiau daro bargeinion â’i gilydd cyn llywodraethu, fyddai’r math o lygredd yr yden ni’n ei weld ar hyn o bryd ddim yn bosib.

Nid y bobol sy’n penderfynu: waeth beth ydi barn y cyhoedd, mae dyfodol Boris Johnson yn llwyr yn nwylo’i ASau mainc gefn. Fyddai aelodau o blaid arall mewn clymblaid ddim mor barod i gow-towio.