Aeth tair blynedd heibio ers i ni gael Eisteddfod yr Urdd yn y cnawd.

Do, fe gafwyd ryw fath o steddfod electronig ar y We yn nyddiau llwm y pandemig.

Bu miloedd yn cystadlu ar-lein o’u cartref yn yr ‘Eisteddfodau-T’ a da o beth oedd hynny.

Ond doedden nhw ddim yn agos i fod yn steddfodau yn y cnawd, gyda neb yn gallu cymdeithasu a gwir fwynhau.

Felly gwych o beth yw bod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn gallu digwydd go-iawn yr wythnos nesaf.