Difyr oedd darllen wythnos yma mai gwaith, gweithio a rhagor o waith oedd ateb y Prif Weinidog i’r creisis costau byw sydd o’n blaenau – ein gwaith ni, wrth gwrs, nid gwaith i’w gabinet. Fel llawer o millennials sydd wedi byw trwy droad canrif, dymchwel yr economi, dros ddegawd o doriadau ac un creisis byd-eang ar ôl y llall: dw i i wedi bod yn gwneud mwy nag un swydd ar y tro ers blynyddoedd, ac wedi casglu CV… diddorol, yn y broses.