Mi wnes i wylio lot o gemau cyffrous dros y penwythnos. Gyda’r tymor yn dod i ben roedd yna lot o bethau i’w mwynhau. Roedd yna goliau, drama, a phenderfyniadau dadleuol. Roedd yna ddathliadau, dagrau a chefnogwyr yn rhedeg ar y cae. Ond yn ogystal â’r amrywiaeth hyn i gyd, roedd yna un peth oedd yn gyson ym mhob un gêm weles i. Roedd yna lawer iawn o chwaraewyr yn dioddef gyda chramp.