Ychydig wythnosau yn ôl, rhyddhaodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru fideo’n tynnu sylw at 60 o Gymrodyr newydd sydd wedi eu hethol i’r Gymdeithas.

Cymdeithas yw hon sy’n dod â ffigurau blaenllaw o fywyd academaidd a dinesig Cymru at ei gilydd, yn gasgliad nodedig o unigolion sy’n cyfrannu’n aruthrol at fywyd deallusol ein gwlad.