Dw i’n eistedd yma’n ceisio agor fy llygaid ar ôl noson ble cysgais i fel carreg drom. Mae fy nghoesau yn brifo a dw i’n eitha’ siŵr bod twtch o losg haul ar flaen fy nhrwyn. Mae yna ddillad leicra wedi eu lluchio yn ddiseremoni ar lawr ac mae batri’r ffôn yn fflat. Ie, mae fy mlys at anturiaethau newydd yn parhau, a’r tro hwn aeth a fi i ben bryn hardd yn y Bannau, gyda chriw o bobl sydd, fel fi, yn faint plus, yn ‘genod nobl’.