Fydd neb yn edrych ar John Deere na Massey Ferguson yn yr un ffordd yn union eto ar ôl helyntion yr AS Neil Parish. Ond ddylai neb edrych ar San Steffan yn yr un ffordd chwaith.

Gobeithio y bydd gwiriondeb anhygoel ac agwedd sarhaus y gwleidydd Ceidwadol o’r diwedd yn tanio newid go-iawn yn y ffordd y mae seneddau’r Deyrnas Unedig yn gweithio.