Dyma i chi glamp o osodiad (a llond ceg): ‘Bydd ffrydio gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru yn glec i hunaniaeth y genedl a’r iaith Gymraeg’.
Mae o’n dipyn o ddweud – ond mae o’n wir!
Ers blynyddoedd bellach mae’r chwaraewyr a’r Gymdeithas Bêl-droed wedi bod yn hyrwyddo’r Gymraeg, gan gyplysu eu llwyddiant ar y cae gydag angerdd tawel tuag at yr iaith.
Mae’r cefnogwyr – y Wal Goch – yn canu’r anthem yn ystod y gemau gan danlinellu’r balchder amlwg yn eu Cymreictod.