Wnaeth Ellie ddim sylwi’n syth, ac fe fu hynny ar ei meddwl am ychydig wedyn. Am ba mor hir oedd o wedi bod yno? Faint oedd o wedi aros? Roedd o’n anodd, rhywsut, i feddwl fod y sgrin wedi bod yna, fel yna, a hithau’n gwybod dim am gyfnod. Roedd hi wedi brysio i mewn i’r gwaith, ei dillad yn drewi o aer sych, llygredig, chwyslyd y tube, a’i meddwl yn felin wynt. Cyfarfodydd, a phwyllgorau, a llythyron ac e-byst a chwestiynau a chymhlethdodau. Erbyn iddi eistedd, roedd haen boeth, denau