Roedd hi’n gêm olaf y tymor i Glwb Pêl-droed y Felinheli ddydd Sadwrn ac roedd yna lond bws wedi teithio o’r pentref i Lanuwchllyn, ger y Bala. Dechreues y prynhawn yn nhafarn enwog yr Eagles. Ac ar ôl y gêm aethom ni yn ôl yno i dderbyn lletygarwch ein gwrthwynebwyr. Roeddwn i’n mwynhau peint o Seithennyn gyda Gwil John wrth y bar pan glywais rywun yn gweiddi o gefn y stafell. “Mae Trump wedi colli hi!”