Fe soniais yn ddiweddar fod rhywbeth cysurus iawn am wylio pobl yn hapus ac yn gwella eu hunain ar FFIT Cymru. Gweithio ar yr un egwyddor y mae Iaith ar Daith. Mae dysgu iaith newydd yn amlwg yn rhoi synnwyr o fod wedi cyflawni rhywbeth ac yn hwb mawr i’r person sydd yn ei dysgu, ond gall gwylio rhywun arall yn dysgu ein hiaith hyfryd ni roi boddhad i ni’r gwylwyr hefyd.