Beth yw eich barn am Winston Churchill, tybed?

Y Prydeiniwr gorau erioed? Un â’n rhybuddiodd am Adolf Hitler a’i filitariaeth o’r Almaen? Un a frwydrodd yn erbyn appeasement? Prif Weinidog â phrofiad uniongyrchol o ryfel, a lwyddodd i arwain ein lluoedd arfog – a darbwyllo Franklin D Roosevelt i ymuno yn y frwydr? A threchu Hitler a’i Natsïaid – gan achub miliynau o fywydau yn Ewrop, gan gynnwys miloedd ar filoedd o Iddewon?