O’r holl bethe gwirion sydd i gecru yn eu cylch, ma’n siŵr bo’ diwrnod o wyliau ymhlith y gwirionaf. Â finne’n sgwennu hwn ar fanc holidê mis Mai, beth sydd i ddrwglicio? Day off?! Ie plîs!

Ond, wrth gwrs, ma’ fe’n destun dadlau yng Nghymru, gyda rhai’n galw am ddiwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi ac eraill eisiau troi diwrnod Jiwbilî Brenhines Lloegr ym mis Mehefin yn ŵyl banc parhaol.