Dwi newydd wylio hysbyseb S4C ar gyfer ei drama fawr nesaf, Y Golau.

Mae’n edrych yn dda, gyda stori afaelgar, a chast gwych yn cynnwys Iwan Rheon ac Alexandra Roach. Yn eu plith hefyd mae’r actores benigamp Joanna Scanlan, y gwnaeth ei hymdrechion glew i ddysgu Cymraeg argraff fawr yn y gyfres ddiwethaf o Iaith ar Daith y sianel.

Ond mae ’na broblem fach. Dim ond dwy frawddeg (fer) o Gymraeg sydd yn yr hysbyseb gyfan.