Bu’r Seintiau Newydd yn dathlu ar ôl cipio Cwpan Cymru am yr wythfed tro yn eu hanes, gyda buddugoliaeth 3-2 yn erbyn Penybont yn Stadiwm Dinas Caerdydd bnawn Sul.

Mae’r clwb o Groesoswallt eisoes wedi cipio tlws yr Uwch Gynghrair – y Cymru Premier – y tymor hwn.