DARN BARN

Er y llwyddiannau amlwg wrth ddysgu Cymraeg i newydd-ddyfodiaid yn rhai o gadarnleoedd y Gymraeg, mae tystiolaeth yn awgrymu lleihad cyson yn y gyfran o bobl a aned y tu allan i Gymru sy’n gallu siarad yr iaith yn rhai o’r ardaloedd hyn.

Ac mi fydd angen mynd i’r afael â hyn os am sicrhau dyfodol i’r iaith a tharo’r targed o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Dyna mae Huw Prys Jones yn ei ddweud…

I ba raddau mae rhai o’n hardaloedd Cymreiciaf yn dal gafael ar eu gallu i gymhathu newydd-ddyfodiaid?

Er y bydd yn rhaid aros peth amser eto am y dystiolaeth ddiweddaraf o Gyfrifiad 2021, mae’r tueddiadau rhwng 1991 a 2011 yn rhoi arwydd clir inni o dueddiadau’r degawdau diwethaf.

Yn siroedd Môn, Gwynedd a Cheredigion yn 1991, roedd cyfanswm o 76,871 o’r boblogaeth o bron i chwarter miliwn o bobl dros 3 oed (236,642) wedi eu geni’r tu allan i Gymru. O’r rhain roedd 16,597 yn gallu siarad Cymraeg – sef ychydig dros un o bob pump, 21.6%.

Erbyn 2011, roedd y cyfanswm o’r boblogaeth a aned y tu allan i Gymru yn y tair sir hyn wedi codi i 97,313 – cynnydd o bron i 20,000. Dros yr un cyfnod cynyddodd y nifer ohonynt a oedd yn gallu siarad Cymraeg i 17,365, cynnydd o 768 yn unig, a’r gyfran oedd yn gallu siarad Cymraeg yn gostwng yn sgil hynny i 17.8%.

Mae’r cyfrannau hyn yn dal yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 8%, a thua 4-5% ymhlith siroedd y de-ddwyrain. Mae’r cyfan yn dangos y gyd-berthynas amlwg rhwng y gallu i siarad Cymraeg ymhlith pobl o’r tu allan i Gymru a’r ganran ymhlith y boblogaeth gyffredinol sy’n gallu’r iaith mewn unrhyw ardal benodol.

Mae’n wir, wrth gwrs, nad yw mannau geni pobl yn adlewyrchiad 100% cywir o gefndir diwylliannol; ymhlith pobl a aned y tu allan i Gymru mae lleiafrif bach a gafodd eu magu mewn teuluoedd Cymraeg, ac mewn rhannau ar y gororau, gallai rhai o frodorion yr ardal fod wedi eu geni mewn ysbyty dros y ffin. Yn yr un modd, nid yw bod y ffaith i rywun gael ei eni yng Nghymru yn golygu o angenrheidrwydd ei fod yn frodor o’r ardal honno. Cyn belled â bod hyn yn cael ei gadw mewn cof, fodd bynnag, mae’r wybodaeth am y gallu i siarad Cymraeg yn ôl mannau geni yn arf hynod effeithiol wrth asesu tueddiadau ieithyddol, yn enwedig yn y Gymru Gymraeg.

Ardaloedd gwledig

Dwy ardal wledig yng Ngwynedd sy’n dangos enghreifftiau clir o effaith newid poblogaeth yw Dwyfor, ac Ardudwy yng ngogledd-orllewin Meirionnydd. Mae tueddiadau tebyg i’w gweld mewn ardaloedd eraill hefyd ledled y Gymru Gymraeg.

Yn ôl cyfrifiad 2011, roedd ychydig dros 71% o boblogaeth Dwyfor yn gallu siarad Cymraeg, a oedd i lawr o 75.5% yn 1991. Mae’n ffurfio rhan allweddol o brif ardal graidd y Gymraeg yn y gogledd-orllewin. Mae’n sicr ymhlith y pwysicaf o’n hardaloedd o arwyddocâd ieithyddol arbennig, ond sydd â’i naws a’i threftadaeth fwyfwy o dan fygythiad mewnfudo o gor-dwristiaeth.

Rhwng 1991 a 2011 bu cynnydd graddol yn y boblogaeth yn gyffredinol yn Nwyfor, ond lleihad o 1,200 yn y boblogaeth a aned yng Nghymru, a chynnydd o bron i 1,700 yn y boblogaeth a aned y tu allan i Gymru.

Fodd bynnag, cynnydd o 100 yn unig a gafwyd yn y nifer o bobl o’r tu allan i Gymru sy’n gallu siarad Cymraeg. Oherwydd hyn, aeth y gyfran o’r bobl o’r tu allan i Gymru sy’n gallu siarad Cymraeg yn ardal Dwyfor i lawr o 27.5% yn 1991 i 23.2% yn 2011. Ar y llaw arall, roedd y gyfran uchel o tua 94% o bobl a aned yng Nghymru sy’n gallu siarad Cymraeg wedi aros yn gyson.

Ardudwy

Mae newid diwylliannol tebyg wedi digwydd i raddau tipyn pellach yn Ardudwy gerllaw.

Dyma ardal sy’n cynnwys arfordir Meirionnydd i lawr o Talsarnau i Ddyffryn Ardudwy at gyrion y Bermo. Dim ond mymryn dros hanner – 51% o’r boblogaeth o 4,500 oedd yn gallu siarad Cymraeg ynddi yn 2011, o gymharu â 57% yn 1991. Yr hyn sydd fwyaf arwyddocaol yma yw bod y boblogaeth a aned y tu allan i Gymru, bellach wedi codi’n uwch na’r bobl a aned yng Nghymru. Mae niferoedd y bobl ddwad sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng fymryn, a’u cyfran o’r cyfanswm wedi gostwng o ychydig dros 20% yn 1991 i 17% yn 2011.

Roedd y gyfran o’r boblogaeth a aned yng Nghymru sy’n gallu siarad Cymraeg wedi dal ei dir yn uchel ar tua 87%, er bod eu niferoedd wedi gostwng yn unol â’r lleihad yn y boblogaeth frodorol.

Newid diwylliannol

Mae ffigurau’r Cyfrifiad yn dangos yn glir hefyd beth yw natur y newid diwylliannol sy’n digwydd yng nghefn gwlad Cymru. O’r holl bobl a aned y tu allan i Gymru yng Ngwynedd, Môn a Cheredigion yng Nghyfrifiad 2011, roedd 84% yn hanu o Loegr. Yn wyneb y canfyddiadau ar lawr gwlad y dyddiau hyn, gallwn fod yn sicr fod hyn yr un mor wir heddiw – a’i fod yn digwydd ar raddfa lawer iawn mwy.

Prif arwyddocâd y canfyddiadau enghreifftiol uchod yw dangos mai tasg gynyddol anodd fydd diogelu hunaniaeth ein cadarnleoedd Cymraeg yn wyneb pwysau mewnfudo pellach. Yr hyn a welwn yw arwyddion o ddirywiad sydd wedi digwydd eisoes yng ngallu’r ardaloedd hyn i ledaenu’r iaith i siaradwyr newydd.

Nid yw’r canfyddiadau yn bychanu dim ar y llwyddiannau amlwg sydd wedi bod wrth ddysgu Cymraeg i fewnfudwyr mewn llawer i ardal – yn enwedig ymysg plant. Does dim amheuaeth fod y gymdeithas Gymraeg yn dal i allu denu unigolion newydd i’w phlith sy’n gaffaeliad mawr iddi ac sy’n ei chyfoethogi’n ddirfawr.

Yr hyn mae’r dystiolaeth yn ei ddangos yw nad yw’r llwyddiannau hyn yng nghyd-destun unigolion yn agos ddigon at allu cynnal canrannau siaradwyr Cymraeg yn ein cadarnleoedd.

Mae’n amlwg y bydd angen peirianwaith a fydd yn galluogi dysgu Cymraeg ar raddfa lawer iawn mwy i fewnfudwyr i’r ardaloedd hyn. Ar yr un pryd, mae angen cydnabod mai nofio yn erbyn y llif fyddwn ni oni ellir hefyd alluogi ac annog mwy o Gymry i fyw ynddynt. Boed y Cymry hyn yn frodorion lleol neu’n bobl o ba bynnag gefndir sydd wedi dysgu Cymraeg.

Mae’r hyn sy’n digwydd yn y farchnad dai ar hyn o bryd yn codi pryderon pellach mai dwysáu mae’r bygythiad i rai o gadarnleoedd pwysicaf y Gymraeg.  Bydd mynd i’r afael â’r disodli diwylliannol hwn yn gwbl hanfodol os am rwystro rhannau helaeth o’r Gymru wledig rhag troi’n Gernyw arall.