Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn mynnu fod ei blaid yn gweithio’n galed i fod yn “ofod diogel a chynhwysol i ferched”.

Daw hyn ar ôl i’w ragflaenydd, Leanne Wood, oedd yn arweinydd Plaid Cymru rhwng 2012 a 2018, ddweud bod gweithdrefnau mewnol Plaid Cymru “yn gwneud cam â menywod”.