Ei isymwybod sydd yn siapio’r ffurfiau yng ngwaith artist oedd yn arfer bod yn friciwr…

Mae atgofion o ddegawdau o weithio a theithio wedi mynd i mewn i’r broses o greu cerfluniau bychain Jon Thomas, artist sy’n byw yn ardal y Sgeti yn Abertawe ond yn hanu o Ddyffryn Aman.