Yn dawel bach, mae’n siŵr fod yr ymgyrchwyr gwrth-niwclear PAWB yn dathlu ynghylch cyhoeddiad Boris Johnson yr wythnos yma fod atomfa newydd yn sicr, yn hollol saff, heb unrhyw amheuaeth yn mynd i ddod i Wylfa yn Ynys Môn.

Mae addewid mor bendant â hynna gan Brif Weinidog presennol y Deyrnas Unedig fwy neu lai’n gwarantu na fydd dim yn digwydd. Roedd yn swnio fel un arall o’i ddatganiadau difeddwl oedd yn digwydd siwtio lle’r oedd o ar y pryd (yn canfasio tros y Ceidwadwyr ym Môn).