Tîm pêl-droed merched Dinas Caerdydd oedd yn dathlu ar ôl cipio Cwpan Cymru yn Stadiwm SDM Glass ym Mhen-y-bont ar Ogwr bnawn Sul diwethaf.

Fe lwyddon nhw i sicrhau buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Met Caerdydd yn y ffeinal, gyda Seren Watkins a Lily Billingham yn rhwydo’r goliau yn yr ail hanner.