Mae’r gantores 22 oed o Gaernarfon, Malan Fôn, wedi ei dewis i fod yn rhan o broject hybu talent Gorwelion y BBC eleni.

Fe gafodd ei sengl neo soul ddiweddaraf, ‘Go with the Flow’, ei chwarae ar orsaf BBC Radio 6 Music, ac mae ei chân newydd ‘Strawberry’ allan yr wythnos nesaf…

Pryd wnaethoch chi gychwyn sgrifennu caneuon?

Dw i wastad wedi bod yn cyfansoddi, dyna kind of oedd beth ro’n i wastad wedi bod eisiau gwneud.