Penderfyniad Boris Johnson (a Mark Drakeford, wrth gwrs) oedd rhoi’r cyhoedd o dan y gwarchae llymaf a welwyd ym Mhrydain erioed. Yn llymach, er enghraifft, nag unrhyw drefn a sefydlwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd yn amhosibl i ni weld ein teuluoedd a’n ffrindiau; hyd yn oed y rheiny oedd ar eu gwely angau.

Hollol ddealladwy, felly, yw dicter y cyhoedd wrth ddeall fod Rhif 10 yn dipyn o party-central yn ystod y pandemig. Yr hipocrasi. Yr haerllugrwydd. Y ffolineb…