Ro’n i wedi addo i fi fy hun na fyddwn i’n trafod gwleidyddiaeth na gwleidyddion eto’r wythnos hon.

Ond wir i chi, alla i ddim peidio…

A hynny diolch i’r Mail on Sunday.

Rhoddodd y cyhoeddiad hwnnw sylw mawr i’r Aelod Seneddol Angela Rayner, un o hoelion wyth Cabinet yr Wrthblaid Brydeinig, y penwythnos diwethaf.

Ac i’w choesau’n benodol.