Pan ddechreuodd Uwch Gynghrair Cymru yn ôl yn y 1990au, roedd gen i weledigaeth o’r clybiau fydde yn llenwi’r gynghrair dros amser. Yn ogystal â’r clybiau mawr sefydlog fel Bangor, Caernarfon, y Rhyl a’r Barri, roeddwn i’n rhagweld rhai o’r clybiau o dde Cymru yn tyfu o gwmpas y prif ganolfannau poblogaidd.

Roedd Merthyr ar wishlist fi, yn ogystal â Chasnewydd ar y pryd.  Roeddwn i’n gobeithio bydde Bae Colwyn yn ymuno, a hefyd clybiau o’r trefi mwyaf, fel Penybont, a Phontypridd.