Chafodd neb ei eni yn siarad Cymraeg, wrth reswm.
Bu’r rhan fwyaf sy’n darllen hwn yn ddigon ffodus i ddysgu’r iaith ar lin mam.
Dyna fendith fawr oedd derbyn mamiaith mor gyfoethog a hardd yn y crud, ac yna’r ysgol feithrin ac ati.
Ond nid pawb sydd mor lwcus.
A rhaid edmygu’r rheiny sy’n profi rhyw ddeffroad yn hwyrach yn eu bywydau ac yn mynd ati i ddysgu siarad Cymraeg.
Un o’r rheiny yw Mike Bubbins, y boi bybli o’r Barri sy’n ennill ei fara menyn yn sefyll ar lwyfan yn dweud jôcs.