Does dim modd gwadu bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac ar draws gwledydd Prydain.

Jane Dodds yw’r unig Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli’r blaid ym Mae Caerdydd tra bod 13 Aelod Seneddol ganddyn nhw yn San Steffan a phedwar Aelod draw yn Holyrood, Senedd yr Alban.