Mae gwyliau’r Pasg wedi dod i ben ac ar ôl pythefnos lle buodd ein Haelodau o’r Senedd yn ymlacio, ymgyrchu ar gyfer yr etholiadau lleol a bwyta ambell wy Pasg, fe heidion nhw oll yn ôl i Fae Caerdydd.

Digwyddiad mawr yr wythnos fel yr arfer oedd y Cyfarfod Llawn ac fe fu cryn drafod am y Gronfa Ffyniant Cyffredin.

Dyma’r arian gan Lywodraeth San Steffan i gymryd lle’r arian fyddai Cymru wedi ei dderbyn gan yr Undeb Ewropeaidd, oni bai am Brexit.