Gyda dedfrydu llofrudd yr Aelod Seneddol David Amess yr wythnos diwethaf i garchar am oes heb obaith am barôl, dwi wedi bod yn meddwl am yr hyn roedd pobl yn ei deimlo adeg y llofruddiaeth ofnadwy honno.

Yn dilyn llofruddiaeth Jo Cox yn 2016, David Amess oedd yr ail Aelod Seneddol i gael ei lofruddio o fewn pum mlynedd, ac roedd pobl o bob plaid – a dim plaid – yn arswydo.