Does yna ddim llawer o rasys seiclo y byswn i’n hapus i’w gwylio o’r dechrau tan y diwedd, ond mae’r ras Paris-Roubaix yn un ohonyn nhw. Treulies i bump awr o flaen y sgrin ddydd Sul a wnes i fwynhau pob eiliad.