Mae’n siŵr nad ydw i’n bell o fod yr ultimate grumpy old man. Nadw, dw i ddim yn ofnadw o hen eto, ond fe ddeith hynny. Ac mi ydw i’n gallu conan gyda’r gore, bois bach. Ac os oes pwnc sy’n ca’l fi fynd fwy nag unrhyw bwnc arall, ma’n siŵr taw trafnidiaeth gyhoeddus yw hwnnw.

Welwch chi, dw i ddim yn gyrru. Nadw. Sai’n embarrassed am y peth – a bod yn hollol onest sai mo’yn gyrru. Ma’r byd ’ma’n obsessed ’da ceir, a’r wlad ’ma ymhlith y gwaetha’.