Oes yna ffordd gliriach o ddangos amarch at amgylchfyd na gollwng eich trowsus a gwneud eich busnes yn y fan a’r lle? Go brin.

Dyna yn union fu yn digwydd ar lethrau’r Wyddfa dros y Pasg.

Er mor ddigalon, nid oedd yn syndod darllen yr adroddiadau am garthion dynol ar hyd llwybrau copa ucha’r wlad.

Bu Golwg yn cyhoeddi straeon yr Haf diwethaf a’r un cynt am ymwelwyr yn heidio i Eryri ac yn gadael llanast a dinistr ar eu holau.