Pe bai chi’n disgrifio FFIT Cymru i mi, nid yw hi’n swnio fel y math o raglen y byddwn i’n ei gwylio heb sôn am ei mwynhau. Ond eto, os dw i’n ffendio fy hun yn glanio arni, dw i’n dueddol o aros. Dwn’im, mae yna rywbeth reit gysurus am weld pobl yn hapus yn does, gweld pobl yn gwella’i hunain gyda gwaith caled.