Gobeithiaf eich bod yn hoff o Aelodau Senedd Cymru – gan ei bod hi’n debyg y cawn ni fwy cyn bo hir – diolch i’r cytundeb rhwng y Sosialwyr sydd wedi bod mewn grym ers 1999, a’r Sosialwyr sydd eisiau bod mewn grym, ond sy’n methu darbwyllo’r Cymry nad ydynt yn blaid ar gyfer siaradwyr Cymraeg Gwynedd, Caerfyrddin a Cheredigion yn unig.