Bore ’ma, tiwb Pringles. Sour cream and chives. Roedd o dan y rhosod, ac er ei fod o’n wyrdd, doedd o ddim yr un math o wyrdd â’r ardd. Mi bigais i o i fyny efo’r ffon codi sbwriel, a’i roi o yn y bag bin. Roedd ’na gwpan mawr o McDonald’s, hefyd, ac ambell ddropyn o coke yn ei waelod, a mwgwd covid efo’r ‘lastig wedi torri, a botel bach bach i declyn fêpio, blas ceirios, 6mg.