Fyddech chi’n fodlon ysgwyddo’r baich o fod yn gynghorydd sir am tua £14,000 y flwyddyn? Byddwch yn onest!

Mae o’n lot o waith am gyflog digon pitw.

Er eich bod yn cael eich cyfrif yn fwy o gynrychiolydd y bobl na gwas cyflog, rydech chi ymysg y rhai ar y cyflogau isaf yn y cyngor sir, ac eto chi ydy wyneb cyhoeddus y sioe.