Dyma y mae Boris Johnson yn ei wneud yn dda… cerdded yn dalog o flaen y camerâu yn Kyiv, gwneud y sioe fawr o gynnig arfau a chefnogaeth a honni ei fod yn arwain y Byd Gorllewinol.

A bod yn deg, mae’n amlwg fod hyn i gyd yn gwneud lles yn Wcráin, yn rhoi hwb i hyder ac, am y tro beth bynnag, yn eu cryfhau nhw. Fel y rhai sy’n gweiddi cefnogaeth o’r ochr mewn ffeit.