Pum mlynedd ar ôl ennill Brwydr Hastings (1066) roedd y Normaniaid wedi llwyddo i oresgyn Lloegr yn llwyr. Ni lwyddasant i oresgyn Cymru am dros ddwy ganrif arall. Yn rhannol, priodolir hyn i dirwedd fynyddig a dyffrynnoedd coediog ein gwlad.

Mor drwchus oedd y coedwigoedd fel y bu’n rhaid i sawl ymgyrch filwrol yn erbyn ein gwlad gyflogi blaenfyddin o goedwigwyr i dorri llwybrau ar gyfer y goresgynwyr.