Os ydan ni eisiau hedfan o Heathrow, mae yn rhaid i ni dderbyn mwy o goed yng Nghymru… dyna’r ddadl, mewn cneuen, onide?!

Mae’r awyrennau sy’n ein cludo i dorheulo dramor yn creu carbon deuocsid, y stwff sy’n gyfrifol am gynhesu byd eang.

Mae cynhesu byd eang yn beth drwg am ei fod yn gwneud i’r môr godi, yn boddi cartrefi pobol ac yn creu llifogydd, sychder a newyn.