Mae cael arddangosfa i’w diweddar ŵr wedi rhoi “calondid” i artist adnabyddus iawn o Aberystwyth…

Mae arddangosfa deyrnged i’r artist a’r athro Celf John Jones yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd, chwe mis ar ôl ei farwolaeth.

Fe’i trefnwyd rhwng yr Ysgol Gelf a’i weddw, yr arlunydd adnabyddus Mary Lloyd Jones. Bu’r ddau gyda’i gilydd am 65 mlynedd, cyn iddo farw yn 89 oed.