Gig Maes B yn Ysgol Henry Richard
Ysgol Henry Richard oedd yr ysgol gyntaf i gael ‘Maes B’ yn eu neuadd nhw eleni, ac mae’n addas, gan mai yn Nhregaron fydd y Maes B go-iawn yn yr haf.
Ar Caron360 mae un o’r disgyblion, Elin Williams, yn disgrifio’r profiad o fwynhau gig byw gan y Cledrau. Ond yn well na dim, cafodd chwaraewyr ukelele’r ysgol gyfle i rannu llwyfan gyda’r band:
“Roedd yn brofiad gwych i ni oherwydd roedd y goleuadau yn sgleinio ac roedd yr atmosffer yn werth chweil!”
Mae mwy o hynt a helynt y paratoadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2022 i ddod ar draws gwefannau bro Ceredigion dros y misoedd nesa…
Gerddi Ffrancon yn ennill gwobr
Mae criw sy’n cynnal gerddi cymunedol yn Nyffryn Ogwen wedi ennill gwobr gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, dim ond blwyddyn ar ôl dechrau.
Amser yma’r flwyddyn ddiwethaf y dechreuodd pethau, wrth i brosiect Dyffryn Gwyrdd, cwmni Byw’n Iach a Chyngor Gwynedd drafod creu gardd ar dir canolfan hamdden Plas Ffrancon ym Methesda.
Ewch i Ogwen360 i ddarllen rhagor am daith y fenter dros y flwyddyn ddiwethaf – o’r gwirfoddoli i’r clybiau garddio i’r cydweithio â chwmnïau lleol.
Gerddi Ffrancon – sesiynau cymunedol wythnosol
Goleuo’r fro i gefnogi Wcráin
“Syniad dros baned o de oedd hyn, ac yn aml iawn, rheiny yw’r syniadau gorau,” meddai Alun Jenkins, wrth esbonio sut aeth criw bach yn lleol ati i oleuo pontydd Pontarfynach a’r Bwa yng Nghwmystwyth ac Eglwys yr Hafod.
“Roeddem yn trafod y sefyllfa erchyll yn Wcráin, ac yn ei deimlo i’r byw, ac yn meddwl y byddai hyn yn ffordd dda o ddangos ein cefnogaeth.”
Mwy o’r hanes ar BroAber360.
Goleuo’r fro i ddangos cefnogaeth i Wcráin